
Yr ydym ni, aelodau o fudiad byd-eang i hyrwyddo Esperanto, yn cyfeirio'r
maniffesto hwn at bob llywodraeth, sefydliad rhyngwladol a phob un o ewyllys
da; ac yn cyhoeddi ein penderfyniad di-sigl i ddilyn y nodau a osodir allan
yma, ac i alw ar bob cyfundrefn ac unigolyn i ymuno â ni i weithio tuag
at ein nodau.
Ers dros ganrif y mae Esperanto, a lansiwyd
ym 1887 i fod yn iaith i hwyluso cyfathrebu rhyngwladol ac a ddatblygodd yn
gyflym yn iaith gyfoethog yn ei hawl ei hunan iawn, wedi bod yn fodd i ddwyn
dynion at ei gilydd gan oresgyn ffiniau iaith a diwylliant. Y mae'r amcanion
sydd yn ysbrydoli defnyddwyr Esperanto mor bwysig a pherthnasol ag erioed.
Nid yw defnyddio ieithoedd cenedlaethol, ar draws yr holl fyd, datblygiadau
mewn technoleg cyfathrebu, na datblygiad dulliau newydd o ddysgu ieithoedd
yn debyg o greu trefn ieithyddol deg ac effeithiol yn unol â'r egwyddorion
canlynol, yr ydym ni yn credu eu bod yn hanfodol.
Mae unrhyw drefn o gyfathrebu sy'n rhoi braint i rai ar hyd eu oes tra'n
mynnu bod eraill yn ymdrechu am flynyddoedd i gyrraedd stad is, yn sylfaenol
wrthddemocrataidd. Er nad yw Esperanto rhagor unrhyw iaith arall yn berffaith,
y mae'r rhagori ar ieithoedd eraill o safbwynt cydraddoldeb mewn cyfathrebu
byd-eang.
Yr ydym yn dal bod anghydraddoldeb ieithyddol
yn achosi anghydraddoldeb ym mhob agwedd ar gyfathrebu, hyd yn oed ar lefel
ryngwladol. Mudiad ydym ni dros gyfathrebu democrataidd.
Y mae pob iaith ethnig ynghlwm wrth ddiwylliant, daearyddiaeth a threfn
wleidyddol byd siaradwyr Saesneg, a Phrydain a'r Unol Daleithiau yn amlycaf
yn eu plith. Mae plentyn sy'n dysgu Esperanto yn dysgu am fyd diffiniau, lle
mae pob gwlad yn gartref.
Yr ydym yn
dal bod addysg mewn unrhyw iaith ynghlwm wrth ddrychfeddwl neilltuol o'r byd.
Mudiad ydym ni dros addysg ar draws y byd.
Dim ond canran fechan o fyfyrwyr iaith dramor sydd yn rhugl yn yr iaith
y maent wedi'i dewis. Mewn Esperanto y mae'n bosibl dod yn rhugl hyd yn oed
wrth astudio gartref. Mae amryw o astudiaethau wedi dangos bod Esperanto yn
ddefnyddiol fel paratoad i ddysgu ieithoedd eraill. Y mae wedi cael ei hargymell
fel conglfaen mewn cyrsiau am ymwybyddiaeth ieithyddol.
Yr ydym yn
dal y bydd anawsterau dysgu ieithoedd ethnig yn parhau'n rhwystr i lawer o
fyfyrwyr y byddai gwybod ail iaith o fudd iddynt. Mudiad
ydym ni dros ddysgu ieithoedd yn effeithiol.
Y mae cymdeithas Esperanto bron yn ddigymar fel cymdeithas fyd-eang y mae
ei haelodau naill ai'n ddwyieithog neu'n amlieithog. Y mae pob aelod o'r gymdeithas
wedi gwneud ymdrech i ddysgu o leiaf un iaith dramor i safon cyfathrebu. I
lawer ohonynt, y mae hyn yn arwain at gariad a gwybodaeth o lawer o ieithoedd
ac yn ehangu eu gorwelion personol.
Yr ydym o'r
farn y dylai siaradwyr pob iaith, bach a mawr, gael cyfle i ddysgu ail iaith
i safon uchel o gyfathrebu. Mudiad ydym ni a
all ddarparu'r cyfle hwnnw i bawb.
Y mae rhannu grym yn anghyfartal rhwng ieithoedd yn arwain at anniogelwch
ieithyddol parhaol, neu orthrwm ieithyddol uniongyrchol ar ran helaeth o bobl
y byd. Mewn cymdeithas Esperanto y mae siaradwyr ieithoedd swyddogol ac answyddogol
yn cyfarfod ar fel bodau cydradd yn rhinwedd parodrwydd y naill a'r llall
i gymrodeddu. Y mae cydbwysedd hawliau a chyfrifoldebau ieithyddol yn creu
llwyfan i ddatblygu a barnu dehongliadau eraill o anghydraddoldeb ac anghytundeb
ieithyddol.
Yr ydym yn
dal bod gwahaniaethau enfawr mewn grym rhwng ieithoedd yn tangloddio'r gwarantu
a fynegwyd mewn llawer dogfen rhyngwladol o driniaieth gyfartal heb sylw o
iaith. Mudiad ydym ni dros hawliau iaith.
Y mae llywodraethau cenedlaethol yn tueddu i drin yr amrywiaeth eang ieithoedd
y byd fel petai'n rhwystr i gyfathrebu ac i ddatblygiad. Mewn cymdeithas Esperanto,
sut bynnag, ystyrir amrywiaeth ieithyddol yn ffynhonnell gyson ac anhepgor
i gyfoethogiad. O ganlyniad, mae pob iaith, fel pob rhan arall o fywyd, yn
gynhenid werthfawr ac yn deilwng o gael ei gwarchod a'i chynnal.
Yr ydym yn
dal bod polisïau cyfathrebu a datblygiad nad ydynt wedi'u seilio ar barch
ac ymgeledd tuag at holl ieithoedd y byd yn condemnio'r rhan fwyaf o ieithoedd
y byd i farwolaeth. Mudiad ydym ni dros amrywiaeth
ieithol.
Y mae pob iaith yn rhyddhau ac yn carcharu ei defnyddwyr, yn rhoi'r gallu
iddynt i gyfathrebu ymysg ei gilydd ond yn eu rhwystro rhag cyfathrebu ag
eraill. A hithau wedi ei chynllunio fel modd hygyrch i gyfathrebu ar draws
yr holl fyd, y mae Esperanto yn un o'r cynlluniau mwyaf effeithiol i ryddhau
dynoliaeth, un sydd yn anelu at alluogi unigolion i gymryd rhan mewn cymdeithas
ddynol, yn ddiogel wreiddiedig yn eu diwylliant lleol a'u hiaith gyffredin
ond eto heb eu cyfyngu ganddynt.
Yr ydym yn
dal bod dibyniaeth gyfan gwbl ar iaith genedlaethol yn rhwystro hunanfynegiant,
cyfathrebu a chymdeithasu. Mudiad ydym ni dros
ryddid dynol.
Prâg Gorffennaf 1996